Hide

Hide

 

Rhannwch eich barn â ni am Strategaeth Ddiwygiedig y Cyngor ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol 2021/22 i 2029/30 (Drafft wedi’i Ddiweddaru - Blwyddyn 3)

Gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019, gan ymrwymo i fod yn Gyngor Di-garbon Net erbyn 2030 a gwella bioamrywiaeth.  

Mabwysiadwyd Strategaeth Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor (2021/22 - 2029/30) ym mis Chwefror 2021. Bwriedir adolygu a diwygio’r strategaeth hon bob 3 blynedd a phwrpas yr ymgynghoriad hwn yw casglu adborth ar gyfer y cyntaf o’r adolygiadau hyn i alluogi ni i lunio fersiwn wedi’i diweddaru o’r strategaeth.

Mi wnaethom gynnal arolwg cyhoeddus ar-lein ym mis Mai 2023 a digwyddiad cyhoeddus ym mis Tachwedd 2023 yn gofyn am eich adborth ar nodau’r Cyngor i fod yn ecolegol gadarnhaol ac yn ddi-garbon net, a’ch syniadau chi am sut y gall y Cyngor eu cyflawni erbyn 2030. Roedd hefyd yn gyfle i gael adborth cychwynnol ar yr ardaloedd arfaethedig newydd i’w cynnwys, yn y strategaeth ddiwygiedig hon, yn ymwneud â chefnogi lleihau allyriadau carbon, cynnydd o ran amsugnad carbon ac adfer natur ar draws Sir Ddinbych, yn ogystal â chynyddu ein gallu i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yn Sir Ddinbych.

Drwy adeiladu ar eich syniadau, rydym wedi gweithio gydag Aelodau a Swyddogion ar draws y Cyngor, i ddatblygu Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol y Cyngor (2021/22 i 2029/30)(Drafft wedi'i Ddiweddaru Blwyddyn 3).

Dyma’r ddogfen ddrafft, byddem yn ddiolchgar pe baech yn ei darllen ac yn rhoi eich barn i niL

 Strategaeth Cyngor Sir Ddinbych ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol (2021/22-2029/30) (Drafft wedi'i Ddiweddaru Blwyddyn 3) 

Gallwch hefyd weld y ddogfen strategaeth fel crynodeb ar ffurf ffeithlun drwy glicio ar y ddolen isod:

Mae’r ddogfen yn egluro’r hyn y mae ein nodau i fod yn Gyngor ecolegol gadarnhaol a di-garbon net yn ei olygu, sut mae'r Cyngor yn perfformio o ran y nodau ar hyn o bryd, ein gobeithion fel Cyngor ar gyfer 2030 ar ôl i ni gyflawni ein nodau, a’r newidiadau a’r camau yr ydym yn gobeithio eu cyflawni dros y 6 mlynedd nesaf.

Rydym yn amcangyfrif y bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.

Bydd yr arolwg yn dod i ben ddydd Llun 20 Mai 2024.

Datganiad Preifatrwydd

Bydd eich data yn cael ei gadw ar ffeil gan Gyngor Sir Ddinbych at ddibenion cysylltu â chi am diweddariadau Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Ddinbych yn trin eich data
personol, ewch i gwefan y Cyngor: www.sirddinbych.gov.uk/preifatrwydd