Strategaeth Ddiwygiedig ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol 2021/22 i 2029/30 (Drafft)
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
Rhannwch eich barn â ni am Strategaeth Ddiwygiedig y Cyngor ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol 2021/22 i 2029/30 (Drafft wedi’i Ddiweddaru - Blwyddyn 3)
Gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019, gan ymrwymo i fod yn Gyngor Di-garbon Net erbyn 2030 a gwella bioamrywiaeth.
Mabwysiadwyd Strategaeth Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor (2021/22 - 2029/30) ym mis Chwefror 2021. Bwriedir adolygu a diwygio’r strategaeth hon bob 3 blynedd a phwrpas yr ymgynghoriad hwn yw casglu adborth ar gyfer y cyntaf o’r adolygiadau hyn i alluogi ni i lunio fersiwn wedi’i diweddaru o’r strategaeth.
Mi wnaethom gynnal arolwg cyhoeddus ar-lein ym mis Mai 2023 a digwyddiad cyhoeddus ym mis Tachwedd 2023 yn gofyn am eich adborth ar nodau’r Cyngor i fod yn ecolegol gadarnhaol ac yn ddi-garbon net, a’ch syniadau chi am sut y gall y Cyngor eu cyflawni erbyn 2030. Roedd hefyd yn gyfle i gael adborth cychwynnol ar yr ardaloedd arfaethedig newydd i’w cynnwys, yn y strategaeth ddiwygiedig hon, yn ymwneud â chefnogi lleihau allyriadau carbon, cynnydd o ran amsugnad carbon ac adfer natur ar draws Sir Ddinbych, yn ogystal â chynyddu ein gallu i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yn Sir Ddinbych.
Drwy adeiladu ar eich syniadau, rydym wedi gweithio gydag Aelodau a Swyddogion ar draws y Cyngor, i ddatblygu Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol y Cyngor (2021/22 i 2029/30)(Drafft wedi'i Ddiweddaru Blwyddyn 3).
Dyma’r ddogfen ddrafft, byddem yn ddiolchgar pe baech yn ei darllen ac yn rhoi eich barn i niL
Strategaeth Cyngor Sir Ddinbych ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol (2021/22-2029/30) (Drafft wedi'i Ddiweddaru Blwyddyn 3)
Gallwch hefyd weld y ddogfen strategaeth fel crynodeb ar ffurf ffeithlun drwy glicio ar y ddolen isod:
Mae’r ddogfen yn egluro’r hyn y mae ein nodau i fod yn Gyngor ecolegol gadarnhaol a di-garbon net yn ei olygu, sut mae'r Cyngor yn perfformio o ran y nodau ar hyn o bryd, ein gobeithion fel Cyngor ar gyfer 2030 ar ôl i ni gyflawni ein nodau, a’r newidiadau a’r camau yr ydym yn gobeithio eu cyflawni dros y 6 mlynedd nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth am waith y Cyngor ar newid hinsawdd, ewch i’n gwefan:
- www.sirddinbych.gov.uk/newid-hinsawdd
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Gallwch roi eich barn i ni am Strategaeth y Cyngor ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol (2021/22 i 2029/30)(Drafft wedi'i Ddiweddaru Blwyddyn 3) trwy:
Gwblhau’r arolwg ar-lein
- Gallwch ddod o hyd i’r arolwg drwy'r dolen isod:
Rydym yn amcangyfrif y bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.
Bydd yr arolwg yn dod i ben ddydd Llun 20 Mai 2024.
Os na allwch gwblhau’r arolwg hwn ar-lein, bydd copïau papur ar gael yn eich llyfrgell leol.
Lleoliad:
-
Dyddiad Cychwyn
22 Mawrth 2024
-
Dyddiad Gorffen
20 Mai 2024
-
Dulliau
-
Cyflenwr
Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?
Arolygon
Adroddiadau a Chysylltiadau