Ymgynghoriad ar Oriau Agor Llyfrgelloedd a Siopau Un Alwad

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?

Rydym yn ymgynghori ar newidiadau i oriau agor yn yr wyth Llyfrgell a Siopau Un Alwad yn Sir Ddinbych dan ofalaeth y Cyngor.

Mae’r Cyngor yn gorfod dod o hyd i arbedion sylweddol dros y flwyddyn ariannol nesaf. Mae gofyn i nifer fawr o wasanaethau wneud newidiadau er mwyn darganfod arbedion, gan gynnwys y Gwasanaeth Llyfrgelloedd.

Wedi trafod nifer o opsiynau, rydym yn teimlo mai’r ffordd orau i fynd i’r afael â hyn yw cynnig 50% o gwtogiad mewn oriau agor ar draws Gwasanaeth Llyfrgell a Siopau Un Awlad Sir Ddinbych.

Hwn yw’r dewis tecaf o ystyried y dewisiadau eraill, megis cau rhai Llyfrgelloedd yn gyfan gwbl er mwyn gallu cynnal gwasanaeth llawn, neu ddiswyddiadau gorfodol.

Yn ogystal â’r cyhoedd, rydym yn ymgynghori gydag Undebau Llafur, Cynghorau Cymunedol lleol, a grwpiau neu sefydliadau sy’n gwirfoddoli neu’n rhedeg gwasanaethau yn ein llyfrgelloedd.

Rydym yn deall na fydd y cynnig yma’n un poblogaidd.

Rydym wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i sicrhau bod y gwasanaeth Llyfrgell yn un o ansawdd uchel sy’n cael defnydd da. Rydym am sicrhau bod y Gwasanaeth Llyfrgell yn parhau ym mhob tref sydd â Llyfrgell ar hyn o bryd, er y bydd hyn gyda chwtogiad mewn oriau.

Ein gobaith yw y gallwn ddychwelyd i’r oriau llawn pan fydd y sefyllfa economaidd yn gwella.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Gyda hyn mewn golwg, dymunwn wybod os ydych yn cytuno gyda’r oriau agor arfaethedig ar gyfer eich llyfrgell leol.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig gwasanaeth Llyfrgell ar draws y sir rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn (mae pob Llyfrgell ar gau ar ddydd Sul). I weld yr oriau cyfredol ar gyfer pob Llyfrgell a Siop Un Alwad, ewch i dudalennau’r Llyfgelleodd ar ein gwefan:

Llyfrgelloedd  | Cyngor Sir Ddinbych

Yr oriau newydd arfaethedig ar gyfer pob llyfrgell yw

Llyfrgell a Siop Un Alwad Corwen 

  • 10am i 1pm: dydd Llun, Mawrth a Gwener
  • 2pm i 5pm: dydd Iau
  • Ar gau: dydd Mercher a Sadwrn

Llyfrgell a Siop Un Alwad Llangollen

  • 9am i 12pm: dydd Llun, Mawrth a Mercher
  • 2pm i 5pm: dydd Gwener
  • Ar gau: dydd Iau a Sadwrn

Llyfrgell Rhuthun*

  • 10am i 5pm: dydd Mawrth a Gwener 
  • 10am i 1pm: dydd Iau
  • 10am i 12.30pm: dydd Sadwrn
  • Ar gau: dydd Llun a Mercher

*Darperir gwasanaethau Siop Un Alwad yn Rhuthun yn Neuadd y Sir ac nid ydynt yn rhan o'r ymgynghoriad hwn

Llyfrgell a Siop Un Alwad Ddinbych:

  • 10am i 5pm: dydd Llun a Gwener
  • 10am i 1pm: dydd Mercher
  • 10am i 12.30pm: dydd Sadwrn
  • Ar gau: dydd Mawrth a Iau

Llyfrgell a Siop Un Alwad Llanelwy:

  • 10am i 1pm: dydd Llun a Iau
  • 2pm i 5pm: dydd Mawrth a Gwener
  • Ar gau: dydd Mercher a Sadwrn

Llyfrgell a Siop Un Alwad Rhuddlan:

  • 10am i 1pm: dydd Mercher a Gwener
  • 2pm i 5pm: dydd Llun a Iau
  • Ar gau: dydd Mawrth a Sadwrn

Llyfrgell a Siop Un Alwad Prestatyn:

  • 10am i 5pm: dydd Llun a Iau
  • 10am i 1pm: dydd Mawrth
  • 10am i 12.30pm: dydd Sadwrn
  • Ar gau: dydd Mercher a Gwener

Llyfrgell a Siop Un Alwad Y Rhyl:

  • 10am i 5pm: dydd Llun a Gwener
  • 10am i 1pm: dydd Mawrth a Mercher
  • 10am i 12.30pm: dydd Sadwrn
  • Ar gau: dydd Iau

Sut i gymryd rhan

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn gallwch:

  1. Gwblhau’r ffurflen arlein
    Dweud eich dweud: oriau agor Llyfrgelloedd a Siopau Un Alwad Sir Ddinbych
  2. Gwblhau ffurflen bapur a’i dychwelyd neu ei bostio i unrhyw Lyfrgell a Siop Un Alwad a reolir gan Cyngor Sir Ddinbych
    FERSIWN ARGRAFFU: ffurflen adborth oriau agor Llyfrgelloedd Sir Ddinbych

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion yw 30 Hydref.

Lleoliad:

  • Dyddiad Cychwyn 03 Hydref 2023
  • Dyddiad Gorffen 30 Hydref 2023
  • Dulliau
  • Cyflenwr Cyngor Sir Ddinbych

Beth ddaeth i’r amlwg

Mae'r ymgynghoriad wedi derbyn dros 4,500 o ymatebion. Mae'r ymatebion yma yn cael eu hystyried ac fe'u defnyddir gan Gabinet y Cyngor i ddod i benderfyniad am yr Arbedion Llyfrgelloedd arfaethedig ar 21 Tachwedd 2023. Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad yma.

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?

Yng nghyfarfod Cabinet 19 Rhagfyr, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych y cynnig i leihau oriau agor y Llyfrgell/Siop Un Alwad o 40%, ynghyd ag arbedion cysylltiedig mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth, er mwyn ryddhau arbediad disgwyliedig o £360,000.

Yn dilyn ymateb cryf i'r ymgynghoriad cyhoeddus gyda dros 4,500 o drigolion yn lleisio barn, diwygiodd y Cyngor y cynnig gwreiddiol. Mae’r cynnig diwygiedig wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ac wedi addasu’r oriau agor arfaethedig i sicrhau bod mwy o lyfrgelloedd ar agor ar ôl oriau ysgol ar gyfer plant a bod y rhan fwyaf o lyfrgelloedd yn gallu parhau i agor ar foreau Sadwrn.

Ni fydd yn rhaid i unrhyw Lyfrgelloedd yn Sir Ddinbych gau eu drysau, a bydd pob Llyfrgell yn parhau i fod ar agor yn rhannol fel y gall gwasanaethau allweddol barhau i fod ar gael i drigolion, er ar gyfradd is.

Adroddiadau a Chysylltiadau

Cysylltwch â

Adran/Gwasanaeth:

Gwasanaeth Tai a Chymunedau

Cyfeiriad llawn:

Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN

Cyswllt:

Customer Services

Rhifau cyswllt:

Rhif ffôn:01824 706000