Ymgynghoriad ar godi premiwm treth y cyngor ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
Rydym yn bwriadu cynyddu premiwm treth y cyngor domestig ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi yn Sir Ddinbych.
Gallwch lawrlwytho dogfen fanwl sy'n amlinellu ein cynigion yma:
Dogfen ymghyngori: cynygion i godi treth y cyngor ar gyfer cartrefi wag dymorhir ac ail gartrefi yn Sir Ddinbych (PDF)
Crynodeb o'n cynigion:
Daw’r cynnig hwn yn sgil cyflwyno pwerau newydd gan Lywodraeth Cymru, sy’n caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru godi hyd at 300% dros y ffi safonol.
Y gost ar hyn o bryd ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi yn Sir Ddinbych yw 50% dros y ffi safonol. Rydym yn bwriadu cynyddu hyn i:
- O 1af Ebrill 2024: codir 100% dros y ffi safonol ar bob cartref gwag hirdymor ac ail gartref yn Sir Ddinbych
- O 1af Ebrill 2025: codir 150% dros y ffi safonol ar bob cartref gwag hirdymor ac ail gartref yn Sir Ddinbych
- O 1 Ebrill 2024: codir 50% yn ychwanegol dros y cynnydd arfaethedig ar yr holl gartrefi gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag am gyfnod parhaus o bum mlynedd neu fwy. Mae hyn yn golygu y bydd y ffi ar gyfer yr eiddo hyn yn 150% dros y ffi safonol o 1 Ebrill 2024, a 200% dros y ffi safonol o 1 Ebrill 2025.
I ddod o hyd i’r ffioedd treth y cyngor presennol ar gyfer eich ardal, ewch i’n gwefan:
Taliadau Treth y Cyngor | Cyngor Sir Ddinbych (dolen yn agor mewn ffenestr newydd)
Trwy gynyddu ffioedd treth y cyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi, rydym yn gobeithio annog perchnogion tai i beidio â gadael eu heiddo’n wag.
Rydym eisiau annog perchnogion cartrefi i ddod â chartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi yn ôl i ddefnydd er budd y gymuned leol a’r economi.
Diffiniadau
- Treth y cyngor yw ffi flynyddol y mae’r cyngor yn ei godi ar bob eiddo o fewn ffiniau’r sir.
Mae treth y cyngor yn cyfrif am oddeutu 17% o holl incwm y Cyngor ac yn helpu’r Cyngor i ariannu a darparu gwasanaethau pwysig fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg/Ysgolion, Gwastraff ac Ailgylchu a llawer mwy.
-
Mae cartref gwag hirdymor yn annedd (eiddo domestig wedi’i ddylunio ar gyfer byw ynddo) sy’n parhau’n wag a heb ei ddodrefnu i raddau helaeth am gyfnod parhaus o leiaf 1 flwyddyn.
Ar hyn o bryd yn Sir Ddinbych mae yna 637 o gartrefi gwag hirdymor.
-
Ail gartref yw annedd (eiddo domestig wedi’i ddylunio ar gyfer byw ynddo) sy’n eiddo wedi’i ddodrefnu i raddau helaeth ac nad yw’n unig neu brif breswylfa unigolyn.
Ar hyn o bryd yn Sir Ddinbych mae yna 391 o ail gartrefi.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Hoffem glywed eich barn am ein cynigion.
Mae gennym ddiddordeb yn eich barn ar:
- Ydych chi’n cytuno gyda’n cynigion i godi premiwm treth y cyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi yn Sir Ddinbych?
- Pa effaith ydych chi’n meddwl y bydd unrhyw bremiwm ychwanegol yn ei gael ar y farchnad dai leol, yn nhermau:
- Rhentu’n breifat
- Y farchnad agored (prynu a gwerthu tai)
- Pa effaith ydych chi’n meddwl y bydd unrhyw bremiwm ychwanegol yn ei gael ar argaeledd tai fforddiadwy yn Sir Ddinbych?
- Pa effaith ydych chi’n meddwl y bydd unrhyw bremiwm ychwanegol yn ei gael ar y diwydiant twristiaeth yn Sir Ddinbych?
- Pa effaith ydych chi’n meddwl y bydd unrhyw bremiwm ychwanegol yn ei gael ar statws y Gymraeg a diwylliant Cymru yn Sir Ddinbych?
Dweud eich dweud
Byddem yn ddiolchgar pe gallech lenwi ein holiadur ymgynghori byr i rannu eich barn. Mae fersiwn ar-lein o'r holiadur ymgynghori ar gael drwy'r ddolen ganlynol:
Holiadur ymghynghori (fersiwn ar-lein): codi premiymau treth y gyngor ar gyfer gartrefi wag dymorhir ac ail gartrefi yn Sir Ddinbych
Bydd angen i chi roi eich enw a’ch cyfeiriad er mwyn i ni ystyried eich barn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.
Os nad ydych chi’n gallu cwblhau’r ffurflen ar-lein, gallwch lawr lwytho ac argraffu copi papur o’r ffurflen, neu ewch i’ch llyfrgell leol i ofyn am un.
Holiadur ymghynghori (fersiwn argraffu): codi premiymau treth y gyngor ar gyfer gartrefi wag dymorhir ac ail gartrefi yn Sir Ddinbych (PDF)
Gellir dychwelyd ffurflenni papur wedi'u llenwi at:
- Eich llyfrgell Cyngor Sir Ddinbych agosaf yn ystod eu horiau agor arferol
- Drwy’r post at: Gwasanaethau Refeniw, Cyngor Sir Ddinbych, Tŷ Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl, LL18 3DP
Mae’n rhaid i bob ymateb ein cyrraedd erbyn dydd Mercher 21 Mehefin 2023.
Lleoliad: Cyngor Sir Ddinbych
- Dyddiad Cychwyn 26 Mai 2023
- Dyddiad Gorffen 21 Mehefin 2023
- Dulliau Ffurflen Adborth, Dogfen Ymgynghori
- Cyflenwr Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Arolygon
Adroddiadau a Chysylltiadau