Ymgynghoriad Pedair Priffordd Fawr Llangollen
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
Ymgyngorhiad Y Pedair Priffordd Fawr, Llangollen
Beth yw pwrpas y prosiect?
Nod y prosiect hwn yw hyrwyddo a gwella pedair priffordd bwysig Llangollen, drwy wneud gwaith gwella tirwedd a pheirianneg i wella mynediad, bioamrywiaeth a gwelededd a dehongliad:
- Safle Treftadaeth y Byd a Chamlas Llangollen
- Yr hen reilffordd Rhiwabon i’r Abermaw
- Yr Afon Dyfrdwy
- Y llwybr hanesyddol Thomas Telford: yr A5 o Lundain i Gaergybi
Y nod yw gwella profiadau preswylwyr ac ymwelwyr ac annog pobl i dreulio mwy o amser yma. Er mwyn cyflawni hyn, mae pedwar maes allweddol wedi'u nodi:
- Y Lanfa
- Mannau mynediad i’r Lanfa, y Rheilffordd a Pharc Melin Isaf Dyfrdwy
- Parc Melin Isaf Dyfrdwy
- Arwyddion a Chyfeiriadaeth
Bydd y gwaith arfaethedig ym mhob un o'r meysydd allweddol hyn yn debygol o gynnwys:
- Gwneud gwelliannau ger y Lanfa, gan gynnwys seddi, hygyrchedd ac arwyddion
- Gwella arwyddion i’r Rheilffordd
- Gwella hygyrchedd ac arwyddion i Barc Melin Isaf Dyfrdwy
- Gwella, atgyweirio ac ail-ddychmygu Parc Melin Dyfrdwy Isaf
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Ar hyn o bryd yn yr ymgynghoriad, rydym yn ceisio barn gynnar pobl ar y pedwar maes rydym wedi cynnig eu gwella. Bydd y safbwyntiau hyn wedyn yn cael eu defnyddio i lywio dyluniadau y byddwn yn eu rhannu ar gyfer ymgynghoriad pellach cyn y Pasg. Bydd manylion sesiynau ymgysylltu’n y dyfodol yn cael eu rhannu ar ein gwefan maes o law
I gymryd rhan, cwblhewch ein holiadur ymgynghori
- Gallwch lenwi'r holiadur ar-lein drwy'r ddolen ganlynol:
Holiadur ymgynghoriad Pedair Priffordd Fawr Llangollen (holiadur ar-lein)
- Gallwch lawrlwytho ac argraffu copi papur o'r holiadur, neu gasglu un o Lyfrgell Llangollen, a'i ddychwelyd i:
Holiadur ymgynghoriad Pedair Priffordd Fawr Llangollen (PDF ar gyfer argraffu)
Rhaid i’r ymatebion ein cyrraedd erbyn dydd Sul 12 Chwefror 2023
Lleoliad: Dyffryn Dyfrdwy
-
Dyddiad Cychwyn
19 Ionawr 2023
-
Dyddiad Gorffen
12 Chwefror 2023
-
Dulliau
Dogfen Ymgynghori, Holiadur - Post, Holiadur – Ar-lein
-
Cyflenwr
Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?
Adroddiadau a Chysylltiadau