Sut hwyl mae’r Cyngor yn ei gael arni? : 2023-24
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
Hello. Dywedwch wrthym sut mae'r Cyngor yn gael arni?
Bob blwyddyn, mae angen i ni fonitro ac asesu ein perfformiad fel Cyngor - ac rydym am gael eich cymorth i ddweud wrthym sut rydych chi'n meddwl ein bod yn gwneud.
Mae'n ofynnol i ni wneud hyn fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac mae hefyd yn ein helpu i sicrhau ein bod ar y trywydd iawn gyda chyflawni prosiectau ac amcanion o dan ein themâu corfforaethol.
Ar gyfer 2022-2027 y themâu hyn yw:
- Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sydd yn bodloni anghenion pobl
- Sir Ddinbych ffyniannus
- Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalus
- Sir Ddinbych sydd yn dysgu a thyfu
- Sir Ddinbych sydd wedi cysylltu’n well
- Sir Ddinbych mwy gwyrdd
- Sir Ddinbych mwy teg a chyfartal
- Sir Ddinbych â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cyngor sy’n cael ei gynnal yn dda ac sy’n uchel ei berfformiad
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Os ydych yn byw neu'n weithio yn Sir Ddinbych, yn rhedeg busnes yma, neu os ydych chi'n sefydliad sy'n gweithio gyda'r Cyngor mewn capasiti proffesiynol, hoffem eich gwahodd i ddweud eich dweud ar sut mae'r Cyngor yn gael arni.
Dylai'r arolwg gymryd 15-20 munud i'w gwblhau.
Lleoliad: Cyngor Sir Ddinbych
-
Dyddiad Cychwyn
11 Medi 2023
-
Dyddiad Gorffen
29 Chwefror 2024
-
Dulliau
Grwpiau - Fforwm Trafod Ar-lein, Holiadur - Post, Holiadur – Ar-lein, Grwpiau - Gweithdy, Holiadur – Dros y Ffôn
-
Cyflenwr
Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?