Y Sir Ddinbych Rydym Ni Eisiau 2022-2027
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
Helo. Helpwch i ni lunio 'Y Sir Ddinbych Rydym Ni Eisiau'
Rydym yn gofyn am eich adborth ar ein Cynllun Corfforaethol drafft o'r enw 'Y Sir Ddinbych Rydym Ni Eisiau' ar gyfer 2022 i 2027.
Beth yw 'Cynllun Corfforaethol'?
- Bob pum mlynedd, mae’n rhaid i’r Cyngor gynhyrchu ‘Cynllun Corfforaethol’
- Mae’r cynllun hwn yn rhoi ffocws i’r Cyngor ac yn helpu pob gwasanaeth yn y Cyngor i weithio gyda’i gilydd, i gynllunio a chyflawni amcanion penodol fydd yn helpu i wneud Sir Ddinbych yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld, i bawb
- Dylai'r cynllun osod 'amcanion' sy'n golygu pethau y mae angen i'r Cyngor ganolbwyntio arnynt dros y pum mlynedd nesaf
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Rydyn ni eisiau gwybod beth rydych chi'n meddwl. Rydym wedi cael adborth da gan lawer o bobl hyd yn hyn, ac rydym bellach yn gofyn am eich adborth ar y 'ddrafft terfynol' o ein hamcanion newydd.
Sut rydych chi wedi ein helpu i ddatblygu ein cynllun newydd:
- Rhwng mis Mai 2021 a mis Gorffennaf 2021, cynhaliom ymarfer ymgysylltu o’r enw Parhau â Sgwrs y Sir, pryd gofynnwyd i bobl roi gwybod i ni beth oedd eu barn am y blaenoriaethau corfforaethol, ac a oeddent dal yn berthnasol ar gyfer 2022-2027
- O’r gweithgaredd ymgysylltu dechreuol hwn, fe wnaethom greu rhai themâu drafft ar gyfer ein cynllun corfforaethol newydd, a rhwng Ionawr a Mawrth 2022 gofynnwyd i bobl am eu hadborth ar y themâu drafft hyn
- Yn dilyn yr adborth hwn, ac ymgysylltu pellach â staff a chynghorwyr newydd eu hethol, mae gennym bellach ein hamcanion 'drafft terfynol'
Yr amcanion yw:
- Sir Ddinbych sydd â thai o safon uchel sy’n bodloni anghenion pobl
- Sir Ddinbych lewyrchus
- Sir Ddinbych sy’n ofalgar, iachach a hapusach
- Sir Ddinbych sy’n dysgu a thyfu
- Sir Ddinbych sydd â gwell cysylltiadau
- Sir Ddinbych sy’n fwy gwyrdd
- Sir Ddinbych sy’n decach a mwy cyfartal
- Sir Ddinbych â diwylliant bywiog ble mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cyngor sy’n cael ei redeg yn dda, ac uchel ei berfformiad
Hoffem wybod eich barn nawr:
- Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r arolwg ar-lein trwy ddilyn y ddolen isod a rhoi gwybod i ni os ydych yn credu y bydd ein themâu newydd yn helpu i wneud Sir Ddinbych yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld
- Os na allwch chi gwblhau’r arolwg yn electronig, mae copïau papur o’r arolwg ar gael ar gais ym mhob un o Lyfrgelloedd Sir Ddinbych a Siopa Un Alwad, a phob canolfan Hamdden Sir Ddinbych Cyf, gallwch gasglu a dychwelyd arolwg i unrhyw un o'r lleoedd hyn, neu gellir eu postio at:
Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ
Os oes angen i chi dderbyn copi o’r arolwg mewn ffordd arall, cysylltwch â’n tîm mewn un o’r ffyrdd canlynol:
Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw dydd 31 Awst 2022
Lleoliad:
-
Dyddiad Cychwyn
01 Awst 2022
-
Dyddiad Gorffen
31 Awst 2022
-
Dulliau
Holiadur - Post, Holiadur – Ar-lein
-
Cyflenwr
Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?