Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol drafft Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy 2020-2025
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol drafft Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy 2020-2025
Helo.
Rydym yn ymgynghori ar ein cynllun rheoli drafft ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar gyfer 2020-2025.
Beth yw Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol?
Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol yn cynnwys rhai o’r ardaloedd cefn gwlad mwyaf hardd, arbennig a dramatig yng Nghymru. Maent yn dirluniau o bwysigrwydd cenedlaethol gyda dynodiad sy’n rhoi’r statws uchaf iddynt ar gyfer gwarchod y tirlun. Mae miliynau o ymwelwyr yn mwynhau’r rhinweddau arbennig hyn bob blwyddyn.
Lle mae’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol?
Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gorchuddio oddeutu 390 cilomedr sgwâr, yn ymestyn o fryniau’r arfordir wrth Brestatyn yn y gogledd ac yn mynd mor bell i’r de â Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Mynyddoedd y Berwyn. Mae’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cynnwys tir yn siroedd Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam ac yn cael ei reoli gan y tri awdurdod unedol (cynghorau sir) ar gyfer yr ardaloedd hyn. Cyngor Sir Ddinbych yw’r awdurdod arweiniol yn y cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
(cliciwch ar y map i agor fersiwn wedi'i ehangu mewn ffenestr newydd)
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Ar ddiwedd 2020, cynhaliodd Cyngor Sir Ddinbych, ar ran y cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ymgynghoriad cyhoeddus a budd-ddeiliaid a ddefnyddiwyd i helpu datblygu’r cynllun rheoli drafft hwn.
Rŵan bod y cynllun rheoli drafft wedi’i ysgrifennu, mae’r pwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn awyddus i ddeall p’un ai bod cynnwys a nodau’r cynllun yn adlewyrchu beth mae pobl wedi’i ddweud wrthym ni sy’n bwysig iddyn nhw.
Dweud eich dweud
I gymryd rhan a dweud eich dweud, byddwn yn ddiolchgar os allwch chi gwblhau’r arolwg budd-ddeiliaid isod. Gellir llwytho’r cynllun rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol drafft yn llawn drwy’r ddolen isod os ydych chi’n dymuno.
Mae copïau caled o’r cynllun rheoli ar gael i’w gweld yn:
- Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Loggerheads, Ffordd Rhuthun, CH7 5LH
- Llyfrgell Llangollen, Heol y Castell, Llangollen, LL20 8NU
Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb ymghynghori yw 20 Ebrill 2022
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:
- E-bost: clwydianrangeaonb@denbighshire.gov.uk
- Ffôn: 01824 712757
- Ysgrifennu at: Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Loggerheads, Ffordd Rhuthun, CH7 5LH
Lleoliad: Cyngor Sir Ddinbych, Gogledd Cymru
-
Dyddiad Cychwyn
09 Mawrth 2022
-
Dyddiad Gorffen
20 Ebrill 2022
-
Dulliau
Holiadur - Post, Holiadur – Ar-lein
-
Cyflenwr
Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?
Adroddiadau a Chysylltiadau