Cynllun amddiffyn arfordir ardal ganolog Y Rhyl: Ymgynghori Cyn Cyflwyno Cais

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?

Helo. Rydym yn cynnig gwella'r amddiffynfeydd arfordirol yn ardal ganolog y Rhyl.

Mae'r Rhyl yn dref glan môr boblogaidd gyda nifer o gartrefi a busnesau wedi'u lleoli ar hyd glan y môr.

Ar hyn o bryd mae ardal ganolog Y Rhyl (rhwng Splash Point i'r dwyrain a Pharc Drifft i'r gorllewin) yn cael ei gwarchod gan strwythurau amddiffyn rhag y môr. Fodd bynnag, mae'r rhain yn dirywio ac, os na fydd gwaith yn cael ei wneud, gallent fethu o fewn y 10-15 mlynedd nesaf. Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd 550 eiddo preswyl a 45 eiddo di-breswyl mewn perygl o lifogydd.

Diben y cynllun arfaethedig yw gwella amddiffynfeydd llifogydd arfordirol yng Nghanol Y Rhyl er mwyn diogelu cartrefi, busnesau a'r economi twristiaid rhag llifogydd ac erydu arfordirol ymhell i'r dyfodol.

I weld yr pac ymgynghoriad cyn ymgeisio, ewch i'n wefan:

Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Y Rhyl: Pac Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (dolen yn ei agor mewn ffenest newydd)

Ar gyfer rhagor o wybodaeth am ein holl amddiffynfeydd arfordirol, ewch i adran bwrpasol Amddiffynfeydd Arfordirol ar ein wefan:

Cyngor Sir Ddinbych: Amddifyn yr Arfordir (dolen yn ei agor mewn ffenest newydd)

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Fel rhan o'n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, mae'n ofynnol i ni gynnal cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod cyn cyflwyno unrhyw geisiadau cynllunio.

Rydym yn eich gwahodd yn gynnes i edrych ar ein cynigion a chyflwyno unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau sydd gennych.

Gallwch lenwi'r ffurflen adborth ar-lein sy'n gysylltiedig isod neu gallwch gysylltu â ni yn un o'r ffyrdd canlynol:

 

 

Bydd copïau caled o'r dogfennau cais cynllunio ar gael i'w gweld yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio statudol yn: Canolfan Groeso'r Rhyl, Y Pentref, Rhodfa'r Gorllewin, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 1HZ.

Mae oriau agor y canolfan croeso yn agor:

  • Dydd Llun – 1pm – 4pm
  • Dydd Gwener – 9.30am – 12.30 pm
  • Dydd Mawrth/Mercher/Iau – 9.30am – 4 pm

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 12 Ionawr 2022 a 9 Chwefror 2022

Lleoliad: Y Rhyl

  • Dyddiad Cychwyn 12 Ionawr 2022
  • Dyddiad Gorffen 09 Chwefror 2022
  • Dulliau Holiadur - Post, Holiadur – Ar-lein
  • Cyflenwr Cyngor Sir Ddinbych

Beth ddaeth i’r amlwg

Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?

Cysylltwch â

Adran/Gwasanaeth:

Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol

Cyfeiriad llawn:

Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN

Cyswllt:

Mott MacDonald Ltd

Rhifau cyswllt:

Rhif ffôn:0161 641 6998