Trefn un ffordd arfaethedig yn Heol y Farchnad a Stryd yr Eglwys, Llangollen

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: trefn un ffordd arfaethedig yn Heol y Farchnad a Stryd yr Eglwys, Llangollen

 

Helo, rydym yn ymgynghori ynglŷn â Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn Heol y Farchnad a Stryd yr Eglwys, Llangollen, a'i effaith fyddai creu trefn unffordd gyda thraffig yn llifo:

  • Heol y Farchnad: tua'r gorllewin o'i chyffordd â Heol Y Castell i’w chyffordd gyda Stryd y Dwyrain.
  • Stryd yr Eglwys: tua'r gorllwen o'i chyffordd â Stryd Y Rhaglaw ar yr A5 i’w chyffordd â Stryd y Capel.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhan o waith parhaus mewn perthynas â chynllun Llangollen 2020. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Llangollen 2020 ar wefan y Cyngor:

Llangollen 2020 (dolen yn agor mewn ffenestr newydd)

 

Beth yw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig?

 

Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ddogfennau cyfreithiol sy’n cyfyngu neu’n gwahardd defnyddio’r rhwydwaith priffyrdd, yn unol â Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

 

Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ein helpu i reoli’r rhwydwaith priffyrdd ar gyfer holl ddefnyddwyr ffyrdd gan gynnwys cerddwyr, a’u nod yw gwella diogelwch ar y ffyrdd a mynediad at gyfleusterau yn yr ardaloedd y’u cynigir.

 

Dim ond am y rhesymau a nodir yn y ddeddfwriaeth y gellir cynnig Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, a dim ond os yw’r rheoliadau yn caniatáu i safle’r cynllun gael ei orfodi gan arwyddion neu linellau priffyrdd priodol ar y ffordd neu’r palmant y gellir cynnig cynllun.

 

Enghreifftiau o gynlluniau lle mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn ofynnol yw:

 

  • Gwahardd Aros
  • Newidiadau i gyfyngiadau cyflymder
  • Cyfyngiadau parcio ar y stryd
  • Cyfyngiadau pwysau / lled neu gyfyngiadau eraill i gerbydau
  • Strydoedd un ffordd

 

Beth yw trefn un ffordd?


Mae’r rhan fwyaf o ffyrdd wedi’u llunio i ganiatáu i draffig lifo yn y ddau gyfeiriad. Mae trefn un ffordd yn gwahardd cerbydau rhag teithio mewn cyfeiriad penodol.

 

Mae disgrifiad llawn o’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig a datganiad o’r rhesymau dros ei gynnig ar gael i’w lawrlwytho isod. Mae copïau papur o’r Gorchymyn arfaethedig a dogfennau cysylltiedig hefyd ar gael i’w harchwilio yn:

 

Llyfrgell Llangollen, Stryd y Castell, Llangollen LL20 8NU

 

Gorfodi

Os bydd y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn dod i rym, bydd unrhyw ddefnyddiwr ffordd sy’n anwybyddu’r drefn un ffordd yn agored i gamau gweithredu gan yr Heddlu gan gynnwys dirwy, pwyntiau ar eu trwydded yrru a/neu gwŷs llys.

 

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

 

Dywedwch eich barn wrthym:

 

Cyn gweithredu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom i ymgynghori â'r cyhoedd am 21 diwrnod. Rydym yn gosod rhybuddion cyhoeddus yn y wasg leol ac yn gosod rhybuddion yn yr ardal gyfagos lle mae’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cael ei gynnig. Rydym hefyd wedi creu’r dudalen we hon.

 

Os hoffech gyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau i’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig, byddem yn ddiolchgar pe baech yn anfon eich adborth yn un o’r ffyrdd canlynol:

 

Llenwi’r ffurflen adborth ar-lein
 

Ysgrifennu at:

Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd, Cyngor Sir Ddinbych, Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ

 

Y dyddiad cau ar gyfer pob adborth yw

Dydd Iau, 9 Rhagfyr 2021

 

Dylech nodi’ch enw a’ch cyfeiriad a sylwch y gallai’r Cyngor roi ystyriaeth i’r holl sylwadau a dderbynnir yng ngŵydd y cyhoedd a gallai sylwedd unrhyw sylwadau ynghyd ag enw a chyfeiriad y sawl sydd wedi’u cyflwyno fod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.

Lleoliad: Dyffryn Dyfrdwy

  • Dyddiad Cychwyn 17 Tachwedd 2021
  • Dyddiad Gorffen 09 Rhagfyr 2021
  • Dulliau Rhybudd Statudol
  • Cyflenwr Cyngor Sir Ddinbych

Beth ddaeth i’r amlwg

Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?

Adroddiadau a Chysylltiadau

Cysylltwch â

Adran/Gwasanaeth:

Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad

Cyfeiriad llawn:

Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN

Cyswllt:

Gwasanaeth Cwsmer Customer Services

Rhifau cyswllt:

Rhif ffôn:01824 706000