Strategaeth Iaith Gymraeg 2022-2027
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
S'mae!
Rydym yn gofyn am eich barn ar yr hyn y dylem ei gynnwys yn ein Strategaeth Iaith Gymraeg ar gyfer 2022-2027.
Mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o fywyd llawer o bobl yn Sir Ddinbych. Mae gan y Gymraeg statws cyfreithiol yng Nghymru a'n strategaeth yw ein ffordd o sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod y Gymraeg yn gallu ffynnu a thyfu yn Sir Ddinbych.
Ar gyfer 2017-2022 ein blaenoriaethau oedd:
- Sut mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i ddarparu gwasanaethau Cymraeg ar draws y sir
- Cynyddu nifer y disgyblion ysgol sy'n dod yn rhugl yn y Gymraeg yn eu bywydau bob dydd o ganlyniad i'r Gymraeg neu addysg cyfrwng Cymraeg
- Sicrhau bod effaith gwneud penderfyniadau lleol ar y Gymraeg yn cael ei hystyried, yn enwedig ar gyfer materion cynllunio lleol
- Gweithio gyda phartneriaid i annog pobl ifanc leol i aros yn yr ardal, diogelu diwylliant Cymru a'r Gymraeg yn Sir Ddinbych ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
- Edrych ar sut y gall y Cyngor annog a hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg yn fewnol a gweithredu fel sefydliad cwbl ddwyieithog
Pam yr ydym yn gwneud hyn?
Mae'r Iaith Gymraeg yn rhan bwysig o ddiwylliant a threftadaeth Cymru, yn genedlaethol ac yn fwy lleol yn Sir Ddinbych.
Mae'r Gymraeg yn un o'r nifer o bethau unigryw sy'n gwneud byw yng Nghymru mor arbennig i gymaint o bobl. Mae Cyngor Sir Dinbych yn credu y dylai'r Gymraeg fod i bawb - p'un ai'ch mamiaith (iaith gyntaf) yw hi, iaith rydych chi wedi'i dysgu yn yr ysgol, neu a ydych chi newydd ddarganfod y Gymraeg am y tro cyntaf rwan oherwydd eich bod wedi gweld yr ymgynghoriad hwn.
Mae’r Cyngor yn cefnogi ymgyrch
Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru - sydd â’r nod o sicrhau bod tua un o bob tri phreswylydd yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2050.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Byddai'r Cyngor yn ddiolchgar pe gallech lenwi'r holiadur ymgynghori. Mae wedi'i rannu'n dair adran:
-
Ynglŷn â'n Strategaeth Iaith Gymraeg - bydd hyn yn ein helpu i ddeall a ydych chi'n meddwl ein bod ni'n gwneud y pethau iawn i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith sy'n parhau i gael ei charu, ei chefnogi a'i siarad yn Sir Ddinbych ac a ydyn ni'n gwneud y pethau iawn i wella ymwybyddiaeth o'r Gymraeg ac i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn lleol.
Dylai'r arolwg gymryd 10-15 munud i'w gwblhau.
Lleoliad:
-
Dyddiad Cychwyn
12 Tachwedd 2021
-
Dyddiad Gorffen
10 Rhagfyr 2021
-
Dulliau
Holiadur - Post, Holiadur – Ar-lein
-
Cyflenwr
Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?