Sut mae'r Cyngor yn ei gwneud?

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?

Helo.

Fel rhan o rwymedigaethau’r Cyngor o dan Ddeddf newydd Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 mae gofyn i’r Cyngor gasglu adborth gan breswylwyr, busnesau a budd-ddeiliaid eraill i asesu pa mor dda mae’r Cyngor yn perfformio.

Ers amser bellach mae’r Cyngor wedi bod yn cynnal arolwg gan holi preswylwyr tua unwaith bob dwy neu dair blynedd. Roedd ein Harolwg Preswylwyr diwethaf yn 2018.

Eleni fe fyddwn yn gwahodd busnesau a budd-ddeiliaid eraill i gymryd rhan fel rhan o’n rhwymedigaethau o dan y ddeddfwriaeth newydd.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Os ydych yn byw yn Sir Ddinbych, yn rhedeg busnes yma, neu os ydych yn sefydliad sy’n gweithio gyda’r Cyngor yn broffesiynol, yna fe hoffem eich gwahodd i ddweud eich dweud ar sut mae’r Cyngor yn perfformio.

Dylai’r arolwg gymryd tua 15-20 munud i’w gwblhau.

Fe fydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu defnyddio i’n helpu ni i wella gwasanaethau sy’n bwysig i chi, yn ogystal â monitro cynnydd ein Cynllun Corfforaethol.

 

Raffl fawr:

Os ydych yn byw yn Sir Ddinbych a'ch bod yn 16 oed neu'n hŷn, byddwch yn gymwys i ennill gwobr am un mis Cyfanswm aelodaeth Campfa Lawn gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Bydd rhagor o wybodaeth am y raffl fawr yn cael ei dangos i chi ar ddiwedd yr arolwg

Lleoliad: Cyngor Sir Ddinbych

  • Dyddiad Cychwyn 12 Medi 2021
  • Dyddiad Gorffen 24 Hydref 2021
  • Dulliau
  • Cyflenwr Cyngor Sir Ddinbych

Beth ddaeth i’r amlwg

Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?

Cysylltwch â

Adran/Gwasanaeth:

Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau

Cyfeiriad llawn:

Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN

Cyswllt:

Strategic Planning and Performance Team .

Rhifau cyswllt: