Llangollen 2020: Prosiect gwella Stryd y Castell
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
Llangollen 2020: prosiect Gwella Heol y Castell
Helo, rydym eisiau gwneud rhai newidiadau i ganol tref Llangollen. Mae Llangollen yn gyrchfan bwysig a phoblogaidd yn ne Sir Ddinbych.
Ers 2018, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio’n agos gyda Grŵp Llangollen 2020 i ddatblygu cynigion ar gyfer gwella Heol y Castell a rhai o’r strydoedd o amgylch ynghanol tref Llangollen. Mae Grŵp Llangollen 2020 yn cynnwys dau Gynghorydd Sir Llangollen yn ogystal â chynrychiolwyr Cyngor Tref Llangollen.
Gwnaed astudiaeth o ganol tref Llangollen yn 2018, ac roedd rhan o’r astudiaeth hon yn cynnwys gofyn i bobl leol beth yn eu barn hwy oedd y problemau mwyaf ynghanol tref Llangollen ar y pryd, a sut ellid eu cywiro. Y problemau mwyaf a godwyd oedd:
- Tagfeydd traffig ar Heol y Castell
- Tagfeydd parcio’n gyffredinol
- Palmentydd yn rhy gul
- Palmentydd yw llawn arwyddbyst
- Heol y Castell yn anodd i gerddwyr groesi
I helpu mynd i’r afael â’r problemau hyn, mae Grŵp Llangollen 2020 ar y cyd â’r Cyngor wedi taro ar y cynigion canlynol:
- Dileu parcio ar y stryd yn Heol y Castell, i wneud y palmentydd yn lletach ar y ddwy ochr
- Darparu cilfach lwytho cerbydau nwyddau ar ochr orllewinol Heol y Castell ger cyffordd Heol y Farchnad
- Darparu cilfach lwytho cerbydau nwyddau ar ochr orllewinol Heol y Castell ger Neuadd y Dref
- Darparu cilfach barcio pobl anabl ar ochr ddeheuol Heol y Bont ger cyffordd Heol y Castell
- Darparu cilfach barcio pobl anabl ar ochr ogleddol Heol y Dderwen ger cyffordd Heol y Castell
- Ailwynebu palmentydd Heol y Castell gydag arwyneb Carreg Efrog o safon
- Darparu cyrbau isel cerddwyr ar Heol y Castell
- Codi lefel y ffordd ar gyffordd Heol y Castell / Heol y Bont i arafu traffig
- Terfyn cyflymder 20 mya ar Heol y Castell
- Gwneud Heol y Farchnad yn unffordd tua’r gorllewin rhwng ei chyffordd â Heol y Castell a’i chyffordd â Heol y Dwyrain.
- Darparu cilfach lwytho cerbydau nwyddau ar ochr ddeheuol Heol y Farchnad
- Darparu 14 o fannau parcio am ddim ym maes parcio Heol y Farchnad. Bydd hyn yn cynnwys 10 o gilfachau parcio safonol gydag arhosiad hwyaf o 1 awr a 4 o gilfachau parcio’r anabl gydag arhosiad hwyaf o 2 awr.
- Dileu parcio ar y stryd yn Ffordd yr Abaty ar ei chyffordd â Heol y Castell i wneud y palmant yn lletach ar ochr ogleddol Ffordd yr Abaty
- Caniatáu rhannu parcio trigolion a pharcio arhosiad byr ar ddwy ochr Heol y Bont
Nawr byddem yn hoffi gofyn am eich barn ar y cynigion hyn.
Mae cynlluniau’n dangos y cynigion i’w gweld fel rhan o’r ymgynghori hwn ar-lein. Darparwyd delweddau a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur hefyd i ddangos sut olwg fyddai ar Heol y Castell pe cai’r cynllun ei adeiladu.
Mae cyllid yn bodoli i gyflawni’r cynllun arfaethedig yn hydref a gaeaf 2021-22. Fodd bynnag, nid yw Cyngor Sir Ddinbych eto wedi gwneud penderfyniad terfynol i fwrw ymlaen gyda’r cynllun hwn. Bydd Cabinet y Cyngor yn gwneud y penderfyniad hwn a bydd yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a sylwadau’r rhai â diddordeb.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Dweud eich dweud!
Byddem yn ddiolchgar pe gallech ein helpu i ddeall sut yr ydych yn teimlo am y cynllun arfaethedig drwy lenwi'r arolwg a gysylltir isod.
Dod i siarad â ni ac ymweld â’n harddangosfa ger y Llyfrgell ar Heol y Castell ar y dyddiadau ac amserau canlynol:
o 21-22 Mehefin rhwng 10:00am a 4:00pm
o 23 Mehefin rhwng 10:00am a 7:00pm
o 24-25 Mehefin rhwng 10:00am a 4:00pm
Gweld ein cynlluniau ar unrhyw adeg yn y ffenestri rhwng y Royal Hotel a Fouzi’s ar gyffordd Heol y Bont / Heol y Castell rhwng 15fed Mehefin a 6ed Gorffennaf
Ffonio 01824 706000 os hoffech ofyn am gopi papur o’n holiadur i’w lenwi
Byddwn hefyd yn ymweld yn bersonol â busnesau ar hyd Heol y Castell yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Os bydd y cynllun arfaethedig (neu fersiwn addasedig ohono) yn mynd yn ei flaen, byddwn yn parhau i gasglu eich adborth a bydd y cynllun yn cael ei fonitro'n agos iawn.
Lleoliad: Dyffryn Dyfrdwy
-
Dyddiad Cychwyn
15 Mehefin 2021
-
Dyddiad Gorffen
06 Gorffennaf 2021
-
Dulliau
Digwyddiad Ymgynghori
-
Cyflenwr
Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?
Adroddiadau a Chysylltiadau