Prosiect Amddiffynfeydd Arfordirol Canol Y Rhyl

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?

Helo, rydym yn gweithio i wella amddiffynfeydd arfordirol Y Rhyl.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda chontractwyr i ddatblygu, gwella a gwneud ceisiadau am gyllid i sicrhau fod rhan ganolog morlin Y Rhyl yn cael ei warchod rhag llifogydd ac erydu arfordirol.

Mae hyn dilyn y gwaith a wnaethpwyd yn 2015 ym mhen gorllewinol Y Rhyl, a’r gwaith cyfredol sy’n cael ei wneud ym mhen dwyreiniol Y Rhyl rhwng Splash Point a’r cwrs golff.

.

 

Pam ydym ni’n gwneud hyn rŵan?

Ar hyn o bryd mae ardal ganolog Y Rhyl (rhwng tua'r ardaloedd Splash Point a chanolfan hamdden newydd SC2) yn cael ei gwarchod gan strwythurau amddiffyn rhag y môr, fodd bynnag mae’r amddiffynfeydd hynny yn dirywio ac yn y pen draw fe fyddant yn methu os na chaiff gwaith ei wneud.

Hoffai’r Cyngor wneud yn siŵr fod yr amddiffynfeydd presennol yn cael eu disodli gan rai newydd yn fuan, fel bod y rhan bwysig a phoblogaidd yma o forlin Y Rhyl (yn ogystal â’r eiddo busnes a phreswyl mewndirol cyfagos) yn cael ei warchod rhag llifogydd ac erydu arfordirol am flynyddoedd i ddod.

 

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

 

Mae safonau angenrheidiol amddiffynfeydd wedi newid ers gosod yr amddiffynfeydd presennol, sy’n golygu na allwn roi rhai union yr un fath yn eu lle.

Mae’r amrywiaeth o opsiynau fydd ar gael i’r Cyngor o safbwynt pa amddiffynfeydd y gellir eu gosod yn debygol o fod yn gyfyngedig, fodd bynnag mae’r Cyngor yn deall pa mor bwysig yw’r ardal brysur hon o’r promenâd o safbwynt hunaniaeth ac economi’r Rhyl.

Rydym yn credu y gallai’r gwaith gynnwys:

  • Gosod deunyddiau i atal erydu (cerrig mawrion) ac atgyweiriadau concrid i’r wal fôr bresennol, tuag at ben dwyreiniol ardal y cynllun arfaethedig – tuag at lle mae prosiect amddiffyn yr arfordir yn Nwyrain Y Rhyl eisoes yn digwydd, ger Splash Point a'r Clwb Golff
  • Wal gynnal goncrid (strwythurau mawr llethrog) i amsugno egni’r tonnau a rhoi mynediad i’r traeth – tuag at yr amddiffynfeydd arfordirol sydd eisoes wedi eu cwblhau yng ngorllewin Y Rhyl (ger Pont y Ddraig a’r harbwr)
  • Wal amddiffyn rhag llifogydd newydd a chodi uchder y promenâd – hefyd yn agos at amddiffynfeydd arfordirol gorllewin Y Rhyl sydd eisoes wedi eu cwblhau
  • Posibilrwydd o ledu’r promenâd o bosib yn y man cyfyng y tu ôl i faes parcio Canol Y Rhyl (a adnabyddir hefyd fel y Maes Parcio o Dan y Ddaear ac / neu maes parcio Pentref y Plant)

 

Cliciwch yma i agor map y cynllun (dolen yn agor mewn ffenest newydd)

Wrth i ni weithio ar ddatblygu ein hopsiynau, hoffem wybod beth sydd yn bwysig i chi, pa fanteision allai cynllun o’r fath ei gynnig yn eich barn chi ac unrhyw bryderon sydd gennych. Rydym wedi lansio arolwg adborth i gasglu eich barn, a bydd y canlyniadau yn parhau i lywio datblygiad y cynllun.  

Lleoliad: Y Rhyl

  • Dyddiad Cychwyn 21 Gorffennaf 2021
  • Dyddiad Gorffen 11 Awst 2021
  • Dulliau Ffurflen Adborth, Holiadur - Post, Holiadur – Ar-lein
  • Cyflenwr Cyngor Sir Ddinbych

Beth ddaeth i’r amlwg

Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?

Adroddiadau a Chysylltiadau

Cysylltwch â

Adran/Gwasanaeth:

Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol

Cyfeiriad llawn:

Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN

Cyswllt:

Gwasanaethau Cwsmer / Customer Services

Rhifau cyswllt:

Rhif ffôn:01824 706000