Parhau gyda Sgwrs y Sir

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?

Helo. Fyddech chi’n hoffi siapio blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y dyfodol?

Bob pum mlynedd, mae’n rhaid i’r Cyngor gynhyrchu ‘Cynllun Corfforaethol’. Mae’r cynllun hwn yn rhoi ffocws i’r Cyngor ac yn helpu pob gwasanaeth yn y Cyngor i weithio gyda’i gilydd, i gynllunio a chyflawni amcanion penodol fydd yn helpu i wneud Sir Ddinbych yn well lle i fyw ynddo, ac i bobl weithio ac ymweld â hi

Cychwynnodd y Cynllun Corfforaethol presennol yn 2017 a daw i ben yn 2022. Roedd y blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer y Cyngor yn y Cynllun Corfforaethol presennol yn cynnwys:

 

  1. Tai:  Mae pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn cartrefi sy’n diwallu eu hanghenion. Dysgu mwy am y Flaenoriaeth Corfforaethol Tai.  

  2. Cymunedau wedi'u cysylltu: Mae Cymunedau wedi eu cysylltu, ac mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau yn lleol, ar-lein a drwy gysylltiadau cludiant da. Dysgu mwy am Flaenoriaeth Gorfforaethol Cymunedau wedi eu cysylltu

  3. Cymunedau cryf: Mae’r Cyngor yn gweithio gyda phobl a chymunedau i gynyddu annibyniaeth a chadernid. Dysgu mwy am Flaenoriaeth Gorfforaethol Cymunedau Cryf

  4. Yr Amgylchedd: Deniadol ac wedi’i ddiogelu, gan gefnogi lles a ffyniant economaidd. Dysgu mwy am y Flaenoriaeth Corfforaethol Yr Amgylchedd.

  5. Pobl Ifanc: Man lle bydd pobl iau am fyw a gweithio ynddo, a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny. Dysgu mwy am y Flaenoriaeth Corfforaethol Pobl Ifanc

 

 

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Mae’n amser i ni edrych ar ddatblygu ein Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2022-2027.

Rydym am ddarganfod beth mae’r bobl sy’n byw yn Sir Ddinbych ei eisiau a’i angen er mwyn cefnogi eu hiechyd a’u lles nawr ac i’r dyfodol. Ydy’r amcanion oedd gennym yn 2017-2022 yn dal yn briodol, neu oes angen i ni ganolbwyntio ar rywbeth arall?

Byddem yn hoffi clywed gennych am yr hyn rydych chi’n ei werthfawrogi, beth rydych chi ei eisiau a beth gredwch chi sydd angen ei wella.

Cymerwch ran, dweuch eich dweud!

Er mwyn cymryd rhan a dweud wrthym beth yw eich syniadau, rhowch eich enw i lawr ar gyfer ein sesiynau ffocws ar-lein ac/neu gwblhau’r arolwg byr ar-lein. Cynhelir y grwpiau ffocws ar y we drwy gyfrwng Zoom / Microsoft Teams neu gyffelyb yn ystod Mehefin a Gorffennaf

Agor yr arolwg adborth ac/neu ymuno â’r sesiwn ffocws

 

Lleoliad: Cyngor Sir Ddinbych

  • Dyddiad Cychwyn 24 Mai 2021
  • Dyddiad Gorffen 31 Gorffennaf 2021
  • Dulliau Grwpiau - Fforwm Trafod Ar-lein, Holiadur – Ar-lein, Cyfryngau Cymdeithasol, Grwpiau - Gweithdy
  • Cyflenwr Cyngor Sir Ddinbych

Beth ddaeth i’r amlwg

Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?

Cysylltwch â

Adran/Gwasanaeth:

Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau

Cyfeiriad llawn:

Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN

Cyswllt:

Tîm Cynllunio Strategol / Strategic Planning Team

Rhifau cyswllt:

Rhif ffôn:01824 706291