Ymgynhoriad mynediad Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
Helo. Dewch i siarad gyda ni am Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae swyddfeydd cofnodion Sir y Fflint a Sir Ddinbych wedi ymuno â’i gilydd i ddod yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn casglu cofnodion hanesyddol sy’n berthnasol i Sir Ddinbych a Sir Y Fflint ac yn eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan alluogi a hyrwyddo mynediad i’r cyhoedd.
Bydd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn gwneud cais i’r Gronfa Treftadaeth y Loteri Cenedlaethol yn 2021 ar gyfer grant i helpu i adeiladu swyddfa cofnod newydd yn yr Wyddgrug, drws nesaf i Theatr Clwyd.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Hoffem wneud yn siŵr bod y ganolfan archifau newydd yn hygyrch ac yn apelgar i ystod eang o bobl. I’n cynorthwyo i wneud hyn, byddem yn ddiolchgar petaech yn gallu llenwi ein holiadur a dweud ychydig am chi eich hun, eich profiad o swyddfeydd cofnodion Sir Y Fflint a Sir Ddinbych, a beth hoffech weld gan y gwasanaeth yn y dyfodol.
Dylai’r arolwg gymryd oddeutu 10 munud i’w gwblhau.
Lleoliad: Cyngor Sir Ddinbych, Gogledd Cymru
-
Dyddiad Cychwyn
11 Hydref 2020
-
Dyddiad Gorffen
30 Tachwedd 2020
-
Dulliau
Holiadur – Ar-lein
-
Cyflenwr
Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?