Prosiect mesurau trafnidiaeth leol gynaliadwy mewn ymateb i Covid-19: Y Rhyl
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
Darganfod 'normal newydd' ar gyfer canol tref Y Rhyl
Ym mis Mai 2020, bu Llywodraeth Cymru yn galw am ddatganiadau o ddiddordeb gan awdurdodau lleol i wneud cais am arian i gyflwyno newidiadau tymor byr dros dro i ganol trefi a fydd yn helpu i wneud iddynt deimlo'n ddiogel ac yn groesawgar. Cyflwynodd y Cyngor ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer cynlluniau arfaethedig yn Y Rhyl, Dinbych, Rhuthun, a Llangollen
Ar 21 Mehefin 2020, lansiodd y Cyngor arolwg i ganfod sut roedd busnesau a thrigolion yn teimlo bod canol trefi yn dechrau ail-agor. Mae ymatebion cynnar yn dangos bod busnesau'n dawelach nag y byddent fel arfer am yr adeg o'r flwyddyn, a bod preswylwyr yn nerfus ar y cyfan ynghylch dychwelyd i ganol trefi. Nododd llawer o ymatebwyr nad oeddent ond yn ymweld â chanol trefi i gyflawni tasgau hanfodol ac roedd dros hanner yr ymatebwyr a adawodd sylw yn mynegi pryderon am led palmentydd a'r anallu i ymarfer ymbellhau cymdeithasol yn ddiogel. Mae'r arolwg yn parhau a gellir ei weld yma.
Mae'r ymatebion i'r arolwg a dderbyniwyd hyd yn hyn yn awgrymu bod yr ystod o gynigion a gyflwynodd y Cyngor i Lywodraeth Cymru yn briodol ac yn gymesur â graddfa'r pandemig cyfredol Covid-19. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y cynigion, ond hoffai'r Cyngor ymgynghori â'r gymuned leol cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol ar y cynllun.
I grynhoi, y cynigion ar gyfer y Rhyl yw creu gwell lle a rennir ar gyfer cerddwyr a beicwyr mewn ardaloedd allweddol o'r Rhyl rhwng yr orsaf drenau a Glan y môr. Gwneir hyn trwy osod systemau ' Lôn Amddiffynnwr ' dros dro yn y lleoliadau canlynol:
- Ochr ddwyreiniol Stryd Bodfor a Heol y Frenhines
- Ochr ogleddol Heol Wellington, rhwng Stryd Elwy a'r Stryd Fawr
- Ar hyd Rhodfa'r Gorllewin, rhwng Water Street a Stryd Fawr
Mae rhagor o fanylion am y cynigion ar gael i'w lawrlwytho isod:
1. Dogfen y cynllun ar gyfer Y Rhyl (PDF)
2. Map y cynllun ar gyfer Y Rhyl (PDF)
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
.
Dweud eich dweud!
Byddem yn ddiolchgar pe gallech ein helpu i ddeall sut yr ydych yn teimlo am y cynllun arfaethedig drwy lenwi'r arolwg a gysylltir isod.
Os bydd y cynllun arfaethedig (neu fersiwn addasedig ohono) yn mynd yn ei flaen, byddwn yn parhau i gasglu eich adborth a bydd y cynllun yn cael ei fonitro'n agos iawn.
Lleoliad:
-
Dyddiad Cychwyn
10 Gorffennaf 2020
-
Dyddiad Gorffen
26 Gorffennaf 2020
-
Dulliau
Digwyddiad Ymgynghori
-
Cyflenwr
Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?
Adroddiadau a Chysylltiadau