Adolygiad o Ddosbarthiadau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
O dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae ar y Cyngor ddyletswydd i rannu ei ardal yn ddosbarthiadau pleidleisio a dynodi man pleidleisio i bob dosbarth. Mae hefyd yn gorfod adolygu’r trefniadau hyn yn barhaus. Cyflwynodd Deddf Gweinyddiaeth Etholiadau 2006 ddyletswydd ar bob awdurdod lleol ym Mhrydain i adolygu ei dosbarthiadau pleidleisio a’u mannau pleidleisio.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Dylai unrhyw unigolyn neu sefydliad sy’n dymuno gwneud sylwadau am drefniadau dosbarthiadau pleidleisio a mannau pleidleisio o fewn ffin Cyngor Sir Ddinbych; neu ynglŷn â hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio lenwi ffurflen adborth, neu yn ysgrifennedig at:
Mr Steve Price
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun, LL15 9AZ
Lleoliad:
-
Dyddiad Cychwyn
01 Gorffennaf 2019
-
Dyddiad Gorffen
09 Awst 2019
-
Dulliau
-
Cyflenwr
Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?
Adroddiadau a Chysylltiadau