Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych 2018-2033: Ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth a Ffefrir Ddrafft
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
Cymeradwyodd Cyngor Sir Ddinbych y Strategaeth CDLl Drafft a Ffafrir ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar 14 Mai 2019.
Mae’r Strategaeth CDLl Drafft a Ffafrir yn cynrychioli’r cam ffurfiol cyntaf o gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych newydd a chyfeirir ato fel y cam ‘Strategaeth a Ffafrir’.
Unwaith y bydd y fersiwn drafft terfynol o’r CDLl newydd wedi’i fabwysiadu gan y Cyngor, a disgwylir i hynny ddigwydd yn 2021, bydd CDLl newydd Sir Ddinbych yn gosod fframwaith ar gyfer twf a datblygiad yn y Sir ar gyfer y dyfodol hyd at 2033.
Mae’r ymgynghoriad Strategaeth Drafft a Ffafrir yn nodi’r materion defnydd tir allweddol sydd angen cyfeirio atynt yn y Sir. Mae’n cynnwys lefel cyffredinol y twf, yn fras lle bydd y twf yn cael ei gyfeirio, a nifer o bolisïau strategaeth.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Rydym yn chwilio am eich sylwadau os mai'r Strategaeth Drafft a Ffafrir yw'r un cywir ar gyfer y Sir ac os yw’r holl faterion allweddol wedi’u hadnabod ac wedi derbyn sylw yn y ddogfen.
Rydym hefyd eisiau eich safbwyntiau ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeiswyr, mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeiswyr yn cynnwys manylion yr holl safleoedd wedi eu derbyn ac mae'r rhain wedi'u rhestru yn ôl setliad ac yna yn ôl cyfeirnod y safle. Ni ddylai’r ffaith fod safle wedi’i gynnwys yn y Gofrestr gael ei ddehongli fel ymrwymiad gan y Cyngor i symud ymlaen gydag unrhyw safle wedi'i gyflwyno yn y Cynllun Datblygu Lleol.
Gellir gweld y Strategaeth a Ffefrir Drafft drwy glicio yma
Gellir dod o hyd i'r Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol drwy glicio yma
Cysylltwch â’r Tîm Tai a Chynllunio Strategol os ydych angen rhagor o wybodaeth neu chyngor drwy anfon e-bost: polisicynllunio@sirddinbych.gov.uk neu cysylltwch â ni ar: 01824 706916.
Cynllunio Strategol a Thai
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62,
Rhuthun,
LL15 9AZ
Lleoliad: Cyngor Sir Ddinbych, Y Rhyl, Prestatyn, Elwy, Dinbych, Rhuthun, Dyffryn Dyfrdwy
-
Dyddiad Cychwyn
08 Gorffennaf 2019
-
Dyddiad Gorffen
30 Awst 2019
-
Dulliau
Ffurflen Adborth, Dogfen Ymgynghori, Holiadur - Post, Holiadur – Ar-lein, Digwyddiad Ymgynghori
-
Cyflenwr
Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?