Cefnogi Gofalwyr sy'n Oedoilion yn Sir Ddinbych

Ydych chi, neu fuoch chi erioed, yn ofalwr yn chwilio am gymorth a gwybodaeth? Ydych chi’n trio jyglo byd gwaith efo dyletswyddau gofal yn eich amser sbâr?

Os yw hyn yn eich disgrifio chi, darllenwch ymlaen – byddem yn gwerthfawrogi eich adborth.

Un o flaenoriaethau Cyngor Sir Ddinbych yng Nghynllun Corfforaethol 2017-2022 yw gweithio gyda phobl a chymunedau i wella annibyniaeth a gwytnwch.

Amcan cyffredinol ein Prosiect Corfforaethol – Cefnogi Gofalwyr yn Sir Ddinbych – yw sicrhau bod yr holl ofalwyr yn Sir Ddinbych yn cael eu cefnogi’n dda.

Sylwch: Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chefnogi pobl sy’n darparu gofal di-dal i aelod o’u teulu a/neu ffrind, nid pobl a gyflogir i swydd ofalu e.e. gyda darparwr gofal cartref.

Pwy sy’n Ofalwr?

Os ydych chi’n darparu cymorth a chefnogaeth ddi-dâl yn rheolaidd ar gyfer perthynas, partner neu ffrind sy’n fregus, yn anabl, yn dioddef o broblemau corfforol neu iechyd meddwl, neu broblemau camddefnyddio sylweddau, yna rydych chi’n ofalwr.

  • Mae Cyngor Sir Ddinbych a’n cymunedau yn cydnabod pwysigrwydd a budd cefnogi gofalwyr
  • Mae gan ein dinasyddion sy’n ymgymryd â swyddi gofalu fynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth o’r radd flaenaf i hyrwyddo eu lles personol
  • Mae gennym ni brosesau cadarn a llwybrau clir ar gyfer adnabod gofalwyr sydd angen cymorth
  • Mae’r Gwasanaeth Cymorth Cymunedol yn ymateb yn effeithiol i anghenion cefnogi gofalwyr sydd angen cymorth statudol
  • Mae’r trydydd sector yn cynnig ystod o wasanaethau ataliol ar gyfer gofalwyr
  • Mae gofalwyr a gyflogir gan Gyngor Sir Ddinbych yn derbyn cefnogaeth i reoli eu rolau gofalu ochr yn ochr â’u hymrwymiadau gwaith
  • Mae pob gofalwr yn derbyn cefnogaeth i gyrraedd eu nodau ym myd addysg, ac i barhau i dderbyn addysg os ydynt yn dymuno gwneud hynny
  • Mae gan bob gofalwr a'r unigolion y maent yn gofalu amdanynt fynediad at gyfleoedd hamdden addas a chynhwysol
  • Mae gofalwyr yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio a siapio gwasanaethau

     

    Canlyniadau a Ddymunir:

  • Gofalwyr yn fwy gwydn ac annibynnol
  • Gofalwyr yn derbyn gwybodaeth ac yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth o fewn eu cymunedau
  • Gofalwyr yn gallu byw bywydau llawn
  • Gofalwyr yn gallu gofalu yn hirach, os ydynt yn dymuno gwneud hynny
  • Dinasyddion Sir Ddinbych a’r rheiny sy’n gweithio yn y sir yn meddu ar well dealltwriaeth o bwysigrwydd cefnogi gofalwyr

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Pa wybodaeth sydd arnom ni ei hangen? 

Os ydych chi, neu os fuoch chi erioed, yn gofalu am aelod o’ch teulu neu ffrind gwerthfawrogem petaech yn treulio ychydig o amser yn cwblhau ein harolwg. Ni ddylai gymryd llawer o amser, a gallwch wneud rhan ohono a dod yn ôl i’w orffen yn ddiweddarach os yw hynny’n haws. Y cwbl fydd arnoch chi angen ei wneud fydd cadw’r arolwg cyn i chi adael y dudalen.

Hoffem wybod pa broblemau rydych chi wedi eu profi wrth geisio derbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth i’ch helpu chi ymgymryd â’ch dyletswyddau gofalu. Mae arnom ni eisiau gwella’r gefnogaeth rydym ni'n ei chynnig i ofalwyr yn Sir Ddinbych, ac i wneud hynny mae arnom angen eich cymorth chi.

 

 

Beth ddaeth i’r amlwg: 

Arolwg ar-lein

Dyddiad Cychwyn01 Ebrill 2018
Dyddiad Gorffen31 Mawrth 2022
Dulliau Holiadur – Ar-lein
CyflenwrCyngor Sir Ddinbych
Argraffwch y dudalen hon

Cysylltwch â

Adran/GwasanaethGwasanaethau Cymorth Cymunedol
Cyfeiriad llawnNeuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN
Rhif ffôn01824 706000
Cyswllt Alison Hay