Ymgynghoriad safle preswyl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr
Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor gyflawni Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr.
Mae’r gwaith yn Sir Ddinbych wedi nodi’r angen am un safle preswyl parhaol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr gyda 6 llain, a safle teithiol Sipsiwn a Theithwyr gyda 4-5 llain.
Mae’r ymgynghoriad hwn ar gyfer y safle preswyl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Y cais yw datblygu safle preswyl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn ‘Green-gates Farm East’ ger Llanelwy. Mae’r tir hwn wedi ei glustnodi yn dilyn chwiliad dwys a galwad am dir, gan gynnwys ystyried eiddo’r Cyngor ei hun.
Rydym yn gofyn am sylwadau ar y cynlluniau ar gyfer y cais hwn. Bydd crynodeb o sylwadau yn cael ei gynnwys mewn adroddiad sydd i’w gyflwyno gydag unrhyw gais cynllunio swyddogol.
Dim ond sylwadau ar faterion cynllunio’n ymwneud â defnydd tir fydd yn cael eu hystyried wrth ddatblygu’r cais cynllunio terfynol. Er enghraifft, nid yw'r canlynol fel arfer yn cael eu derbyn fel materion cynllunio:
- Materion moesol
- Amgylchiadau personol
- Effaith ar werth eiddo
- Datgelu pwy yw ymgeisydd
- Ofn cystadleuaeth
Gallwch gyflwyno sylwadau ar y cynnig gan ddefnyddio’r ddolen isod neu drwy ysgrifennu at:
Ymgynghoriad Sipsiwn a Theithwyr, Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 1AZ.
Er mwyn i’r sylwadau gael eu hystyried, rhaid nodi enw a chyfeiriad ar bob darn o ohebiaeth a anfonir drwy’r post.
Mae copïau o’r cynlluniau drafft i’w gweld yn Llyfrgell Llanelwy a Siop un Stop rhwng:
Dydd Llun, Dydd Mercher, Dydd Gwener
|
9.30am – hanner dydd ac 1pm tan 5pm
|
Dydd Sadwrn
|
9.30am – 12.30pm
|
Mae cyfleusterau cyfrifiadurol ar gael yn y llyfrgell a’r siop un stop hefyd – ewch i wefan y Cyngor am ragor o fanylion https://www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd
Mae’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad cyn cyflwyno cais cynllunio yn cael ei nodi isod. Mae’n bosibl na chaiff unrhyw sylwadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau eu hystyried.
_________________________________
(26.10.2018) Nodwch os gwelwch yn dda, oherwydd gwall ar y ffurflen, mae'r ddogfen cais cynllunio drafft wedi'i ddiweddaru.
_________________________________
(13.11.2018)
Oherwydd rhai anawsterau technegol gyda'r porth ymgynghori rhwng 26 a 29 Hydref, mae'n bosibl bod rhai unigolion wedi profi anhawster wrth gael mynediad at wybodaeth neu i adael sylwadau ar yr ymgynghoriadau ar gyfer y ddau gynnig.
Hoffem ymddiheuro am hyn ac rydym wedi ymestyn yr ymgynghoriad am bedwar diwrnod ychwanegol, er mwyn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Y dyddiad cau newydd erbyn hyn yw Tachwedd 25ain.
Lleoliad: Elwy
-
Dyddiad Cychwyn
24 Hydref 2018
-
Dyddiad Gorffen
25 Tachwedd 2018
-
Dulliau
-
Cyflenwr
Cyngor Sir Ddinbych
Beth ddaeth i’r amlwg
Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?