Telerau ac Amodau Defnyddio
Drwy gofrestru ar gyfer Fy Llais, rydych chi'n cytuno a'r amodau canlynol.
O ganlyniad i hynny, gofynnwn yn garedig i chi ddarllen drwy ein hamodau defnyddio.
Telerau ac amodau defnyddio ar gyfer aelodau gwahoddedig o'n Cymuned Ddylanwad
Mae Cymunedau Dylanwad yn lleoedd lle gall aelodau gwahoddedig fynegi eu barn a'u teimladau am bynciau sy'n codi mewn arolygon a gaiff eu dangos yn eu hadran Fy Llais personol.
Oni bai ein bod yn nodi fel arall, caiff barn pob aelod unigol ei gadw'n gyfrinachol. Byddwn ni ond yn ei ddefnyddio i lywio'r farn gyffredinol a ddarperir gan y gymuned yn ei chyfanrwydd. Caiff canlyniadau a chanfyddiadau eu dadansoddi ar gyfer y gymuned gyfan, a byddan nhw'n cael eu cofnodi fel dadansoddiad cyfunol.
Fyddwn ni ddim yn nodi enw unrhyw aelod o'r gymuned wrth gyfeirio at unrhyw sylwadau na gwybodaeth.
Rydym yn sicrhau cyfrinachedd bob amser.
Sicrhewch :
Bod yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi am eich hun yn gywir, ac mai dim ond chi a all weld y negeseuon e-bost rydyn ni'n eu hanfon at y cyfeiriad rydych chi wedi'i nodi.
Eich bod yn gwbl gyfrifol am unrhyw gynnwys rydych chi'n ei ychwanegu at y wefan a bod neb arall yn gallu defnyddio eich cyfrif.
Eich bod yn rhoi gwybod i'r gweinyddwyr os byddwch chi'n gweld cynnwys sy'n torri'r rheolau yma.
Eich bod yn cytuno bod rhaid i chi werthuso'r defnydd o bob math o gynnwys, ac yn cymryd cyfrifoldeb dros unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â'i ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys gweld a yw'r cynnwys yn gywir, yn gyflawn neu'n ddefnyddiol.
Rydych chi'n cydnabod, yn cydsynio ac yn cytuno y gall gweinyddwyr cymunedau 'TogetherWeCan' gael gafael ar wybodaeth am eich cyfrif, ei chadw a'i datgelu yn ôl y gyfraith. Gallan nhw hefyd wneud hyn yn seiliedig ar ewyllys da os byddan nhw'n credu bod hyn yn hanfodol ac yn rhesymol er mwyn:
- Cydymffurfio â phrosesau cyfreithiol
- Gorfodi'r rheolau
- Ymateb i honiadau fod unrhyw gynnwys yn ymyrryd â hawliau rhywun arall
- Ymateb i'ch ceisiadau am wasanaethau i gwsmeriaid, neu ddiogelu hawliau, eiddo neu ddiogelwch personol unrhyw aelod arall
Gweithgareddau Byr
Bydd Fy Llais yn cynnal gweithgareddau a gaiff eu galw'n weithgareddau byr. Gall aelod o'r gymuned fwrw golwg dros y rhain yn gyflym a phenderfynu a ydyn nhw am eu cyflawni ai peidio.
Gallai'r gweithgareddau yma fod yn arolygon, pleidleisiau neu wahoddiadau i gymryd rhan mewn trafodaethau agored.
Bydd y rhwydwaith 'People Matters Network', sy'n gyfrifol am gymunedau 'TogetherWeCan' yn pennu cynnwys y gweithgareddau byr yma o bryd i'w gilydd. Caiff aelodau'r gymuned gyfle i ddylanwadu ar y pynciau a gaiff eu trafod yn y gweithgareddau byr yn ogystal ag awgrymu eu cynnwys eu hunain.
Rheolau a chanllawiau pellach ar gyfer aelodau sy'n cymryd rhan mewn trafodaethau
Bydd yr aelodau hynny o'r gymuned sy'n awyddus i gymryd rhan yn un o'r trafodaethau niferus sydd ar agor iddyn nhw yn gwbl ymwybodol y caiff yr wybodaeth y byddan nhw'n ei rhoi ei rhannu â chyfranogwyr eraill.
Gofynnwn yn garedig fod pawb sy'n cymryd rhan yn parchu pob cyfranogwr arall a'r cyfle sydd ganddyn nhw i roi eu barn.
Rhai canllawiau:
Sicrhewch fod eich sylwadau yn berthnasol i'r pwnc dan sylw.
Dylech fod yn gwrtais ac ymdrechu i sicrhau bod unrhyw sylw yn wrthrychol ac yn ffeithiol gywir.
Peidiwch â gwneud sylwadau difenwol (h.y. sylwadau sydd ddim yn wir ac a fyddai'n gallu niweidio enw da unigolyn neu sefydliad).
Peidiwch â chyfiawnhau gweithgarwch anghyfreithlon nac annog pobl i gyflawni unrhyw drosedd, gan gynnwys annog casineb ar sail hil.
Peidich â gwneud sylwadau a allai gael effaith ar achos llys sy'n mynd rhagddo neu sydd ar y gweill (dirmyg llys) neu dorri amod llys.
Peidiwch â gwneud sylwadau sy'n cynnwys eiddo rhywun arall sydd dan hawlfraint.
Peidiwch â rhegi na defnyddio iaith a allai dramgwyddo cyfranogwyr eraill.
Peidiwch â gwneud sylwadau sy'n anghyfreithlon, yn aflonyddgar, yn ymosodol, yn fygythiol, yn niweidiol, yn amhriodol, yn gableddus, yn seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol nac yn tramgwyddo ar sail hil. Mae hyn yn cynnwys sylwadau sy'n tramgwyddo eraill o ran crefydd, rhyw, cenedligrwydd neu unrhyw rinwedd bersonol arall.
Peidiwch ag esgus bod yn aelod arall o'r fforwm nac esgus eich bod yn cynrychioli unigolyn na sefydliad.
Peidiwch â gwneud sylwadau na dewis enw defnyddiwr a allai gynnwys gwybodaeth bersonol sy'n tynnu sylw atoch chi neu eraill.
Mae'n rhaid i chi wneud sylwadau yn Saesneg yn unig.
Peidiwch â hysbysebu na hyrwyddo cynnyrch na gwasanaethau.
Peidiwch â rhannu 'spam' na chyfrannu at y trafodaethau yn ormodol. Dim ond unwaith y dylech wneud yr un sylw. Peidiwch ag ail wneud yr un sylw na sylw tebyg. Sicrhewch fod nifer y sylwadau rydych yn eu cyfrannu ar gyfer pob pwnc yn rhesymol. Gall nifer o sylwadau gan yr un unigolyn, neu nifer fach o unigolion, olygu na fydd eraill yn awyddus i gyfrannu.
Peidiwch â defnyddio enw defnyddiwr amhriodol (di-chwaeth, tramgwyddus ac ati).
Os ydych chi o dan 16 oed, sicrhewch eich bod wedi cael caniatâd eich rhiant/cynhaliwr cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth. Fydd defnyddwyr sydd heb gael caniatâd ddim yn cael cymryd rhan na rhoi gwybodaeth bersonol i ni.
Pwyntiau Cymunedol lle y bo hynny'n briodol
Er mwyn cydnabod y cymorth rydyn ni'n ei gael gan aelodau'r gymuned ddylanwad, byddwn ni'n dyfarnu pwyntiau ar gyfer pob gweithgaredd byr sy'n cael ei gwblhau.
Bydd y rhwydwaith 'People Matters Network' yn gyfrifol am unrhyw benderfyniad i gynnal cystadlaethau neu rafflau a chydnabod cyfraniad yr aelodau drwy ddyfarnu gwobrau neu dystysgrifau.
Fydd aelodau unigol o'r gymuned ddim yn cael eu talu am eu gwasanaethau a byddan nhw'n rhoi eu cymorth am ddim gan gydnabod eu bod nhw'n ei wneud o'u gwirfodd.
Caiff aelodau'r gymuned ddylanwad wybod am bob gwobr.
Bydd y rhwydwaith 'People Matters Network' yn goruchwylio gweithgareddau'r cymunedau dylanwad ac mae'r rhwydwaith yn cadw'r hawl i:
Olygu sylwadau cyn neu ar ôl eu cyhoeddi gan ddefnyddio'r rheolau uchod.
Ymateb i bob achos o dorri'r rheolau yma neu gyfreithiau lleol mewn unrhyw ffordd briodol. Gall hyn gynnwys dileu cynnwys a rhoi gwybod i'r awdurdod priodol am unrhyw achos o gamddefnyddio.
Cau cyfrif unrhyw aelod sy'n torri'r amodau defnydd yn gyson.
Newid neu addasu'r rheolau heb roi rhybudd ymlaen llaw.