Hide

Hide

 

Croeso

Diolch i chi am ddangos diddordeb mewn ymuno ag Y Panel.

 Beth yw Y Panel? 

Y Panel yw eich cyfle i allu cyfrannu mwy ar-lein yng ngweithgareddau ymrwymo ac ymgynghori Cyngor Sir Ddinbych.

Drwy gofrestru i Y Panel byddwch yn gallu:

  • Creu proffil unigryw sydd yn gadael i ni wybod eich diddordebau

  • Derbyn negeseuon e-bost am weithgareddau y byddwch o bosib â diddordeb cymryd rhan ynddynt (gallwch ddewis peidio â derbyn e-byst ar unrhyw adeg)

  • Ffordd hawdd o fonitro a chadw golwg ar weithgareddau y gofynnwyd i chi eu cyflawni neu wedi'u cwblhau yn diweddar

  • Derbyn diweddariadau awtomatig ar brosiectau yr ydych wedi bod yn rhan ohonynt (gallwch ddewis peidio â derbyn e-byst ar unrhyw adeg)

Sut i gorfrestru ar gyfer Y Panel

Mae cofrestru ar gyfer Y Panel yn hawdd. Mae Y Panel yn agored i unrhyw un dros 18 oed* a gallwch gofrestru drwy lenwi'r ffurflen gais. Yn y ffurflen gais gofynnir i chi beth yw eich diddordebau ac am ychydig o fanylion amdanoch chi eich hun. Mae cwestiynau monitro cydraddoldeb dewisol hefyd y gallwch eu hateb os ydych yn dymuno gwneud hynny.